Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.10 - 10.05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.
2 Deisebau newydd
2.1 P-04-613 Dylai Aelodau’r Cynulliad wrthod yr argymhelliad i gynyddu eu cyflogau 18%
2.1 - 1 Datganodd yr Aelodau o'r Pwyllgor a oedd yn bresennol fuddiant perthnasol o ran pwnc y ddeiseb.
2.1 - 2 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am ei sylwadau ar y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol.
2.2 P-04-623 Wella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Geisio sylwadau pellach gan y deisebwyr ar y pwyntiau penodol a godwyd yn y paragraff olaf yn llythyr y Gweinidog; ac
· Ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn a yw pob awdurdod lleol yn cynnwys Safon Ansawdd Tai Cymru yn ei Gynlluniau Datblygu Lleol.
3 Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-598 Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a
· Chau'r ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos.
3.2 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ac at Blant yng Nghymru yn gofyn am eu barn ar y pwyntiau a godwyd gan y deisebwyr.
3.3 P-04-535 Achubwch ein Gorsafoedd Tân
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a
· Chau'r ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos.
3.4 P-04-563 Y ddarpariaeth o wasanaethau yng ngorsaf dân Pontypridd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a
· Chau'r ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos.
3.5 P-04-596 Achub Gorsaf Dân y Porth – MAE’R EILIADAU’N CYFRIF!
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a
· Chau'r ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos.
3.6 P-04-592 Pleidleisiau gan Ddinasyddion sy’n Rhwymol yn Ddemocrataidd ar Lefel Llywodraeth Leol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a
· Chau'r ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos.
3.7 P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, yn sgil y newyddion cadarnhaol bod y mater a godwyd yn y ddeiseb wedi cael ei ddatrys ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, gyda thrafodaethau yn parhau yn y blynyddoedd i ddod, cytunwyd i gau'r ddeiseb.
3.8 P-04-585 Newidiadau i gyffordd yr A494/A470 yn Nolgellau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a yw'n fodlon ar y camau a gynigiwyd gan y Gweinidog; ac yna
· Gau'r ddeiseb oni bai ein bod yn clywed yn wahanol gan y deisebydd cyn pen chwe wythnos wedi ysgrifennu ati.
3.9 P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebwyr a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn am ei barn ynghylch a yw arwyddion ffordd ar yr A483 ar gyfer y gofeb yn ddichonadwy.
3.10 P-04-542 Cyfleoedd Ymarferol i Bobl Ifanc
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a
· Chau'r ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos.
3.11 P-04-551 Dysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol Mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a
· Chau'r ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos.
3.12 P-04-569 Rhowch y Gorau i Gynnal y Profion Cenedlaethol ar gyfer Plant Ysgolion Cynradd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a
· Chau'r ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos.
3.13 P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i wahodd y Gweinidog a'r deisebydd i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor gyda golwg ar i'r Pwyllgor adrodd i'r Cynulliad maes o law.
3.14 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn
Trafodwyd y ddeiseb ynghyd ag eitem agenda 3.15 (P-04-466)
Ystyriodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr am y sefyllfa yn lleol a chytunwyd i ofyn am farn y deisebydd ar y sefyllfa bresennol.
3.15 P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru
Trafodwyd y ddeiseb ynghyd ag eitem agenda 3.14 (P-04-479)
Ystyriodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr am y sefyllfa yn lleol a chytunwyd i ofyn am farn y deisebydd ar y sefyllfa bresennol.
3.16 P-04-534 Ymgyrch i ddiogelu YSBYTY ABERTEIFI
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a
· Chau'r ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos.
3.17 P-04-552 Diogelu Plant
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunwyd i ofyn am farn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cynnwys yr ohebiaeth.
3.18 P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog am y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas ag Wylfa B a datblygu technoleg glo glân, gan gynnwys unrhyw ymwneud â Hitachi.
3.19 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ystyried y ddeiseb eto, gan gynnwys a ddylid pwyso ar y Gweinidog i roi tystiolaeth lafar, unwaith y bydd ymatebion oddi wrth ohebwyr eraill wedi dod i law.
3.20 P-04-550 Pwerau Cynllunio
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am farn y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar sylwadau’r deisebwyr.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod er mwyn trafod y busnes canlynol:
Eitem 5 - Adroddiadau Drafft y Pwyllgor
5 Adroddiadau Drafft y Pwyllgor